Gwledd
Dyma stori deg o gwmnïau bwyd a diod mwyaf blaenllaw Cymru. Mae'r awdur wedi teithio ledled Cymru i sgwrsio â pherchnogion i gael hanes personol a difyr sefydlu eu busnes bwyd a diod – Halen Môn, Cwrw Llŷn, coffi Ffa Da, Crwst, Jin Talog, Gwenyn Gruffydd, Edwards o Gonwy, Ffwrnes, Llaeth Teulu Jenkins a Pant Du. Straeon i ysbrydoli unrhyw un sy'n ystyried dechrau busnes yn y byd arlwyo.