Mae Pobol y Cwm yn dathlu deugain mlynedd o ddarlledu ym mis Hydref 2014. Erbyn hyn yng Nghymru, mae'n anodd cofio bywyd heb yr opera sebon eiconig hon, ac yn 1974, pan welwyd hi am y tro cyntaf, doedd dim modd rhag-weld y byddai'n dal i'n diddanu ymhell i'r dyfodol. Yn y llyfr pen-blwydd arbennig hwn, cawn gwrdd â thrigolion presennol Cwmderi a'r actorion sy'n eu portreadu nhw, cael cipolwg tu ôl i lenni'r gyfres, yn ogystal â mwynhau cwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf cyfarwydd a phoblogaidd y Cwm dros y degawdau unwaith eto. Pen-blwydd Hapus a hir oes, Pobol y Cwm!