Dyma gyfrol eithriadol o ddifyr am hiwmor tri o lenorion disgleiriaf Ceredigion. Roedd y tri hyn - Moc Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards - yn ffrindiau pennaf, yn Gardis i'r carn, yn gyfoethog eu Cymraeg ac yn gwybod sut i dynnu coes ei gilydd a pheri i bobl chwerthin yn braf.
Roedd Moc, un o lenorion gorau a mwyaf ffraeth Ffair-rhos, yn arbenigwr ar gymeriadau lliwgar ei fro. Ef oedd cyfieithydd preoffesiynol cyntaf y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd. Mae Tegwyn, cyn-aelod o staff Geiriadur Prifysgol Cymru, yn hanu o Ben-y-bont Rhydybeddau ond yn byw yn Bow Street erbyn hyn. Mae'n gartwnydd ac yn limrigwr heb ei ail. Roedd Hywel Teifi, yr ysgolhaig o Landdewi Aber-arth, yn ddarlithydd ac yn gyfathrebwr ysgubol a phoblogaidd iawn.
Mae hon yn gyfrol hynod ddarllenadwy ac yn bortread cynnes o dri Chardi o dras werinol a ddaeth yn llenorion dylanwadol ymhell y tu hwnt i'w sir enedigol.
Cewch hwyl ryfeddol yng ghwmni'r triawd ffraeth a doniol hwn!