Gofal ein Gwinllan - Cyfrol 1
Ysgrifau ar gyfraniad Yr Eglwys yng Nghymru i'n llên a'n hanes a'n diwylliant
Mae'r gyfrol hon, y gyfrol gyntaf mewn cyfres, yn cynnwys 14 pennod sy'n disgrifio ac yn dadansoddi cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lên a hanes a diwylliant y genedl rhwng 1567, blwyddyn cyhoeddi cyfieithiad Richard Davies a William Salesbury o'r Testament Newydd Cymraeg, a diwedd y ddeunawfed ganrif. Fe'u seiliwyd ar gyfres o weminarau a drefnwyd gan Yr Eglwys yng Nghymru ar y cyd ag Athrofa Padarn Sant. Mae'r gyfrol yn cynnwys astudiaethau o unigolion allweddol del Dr John Davies, Mallwyd, Edmwnd Prys, awdur Y Salmau Cân, Rhys Pritchard a Channwyll y Cymry, Ellis Wynne, Theophilus Evans, Griffith Jones Llanddowror, ac o blith y beirdd Goronwy Owen ac Evan Evans 'Ieuan Fardd'. Ymhlith y themâu a grybwyllir y mae cyfieithiadau cynnar o'r Beibl, hanes y Llyfr Gweddi Gyffredin, dulliau addoli mewn carol, cwndid ac emyn, clasuron rhyddiaith y ddeunawfed ganrif a chyfraniad merched i grefydd y cyfnod.Mae'r holl awduron yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn dra hyddysg ym myd ysgolheictod a'r diwylliant Cymraeg. Er yn canoli ar ffigyrau o'r Eglwys yng Nghymru, mae rhychwant yr astudiaethau yn eang a bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy'n trysori etifeddiaeth ddiwylliannol y genedl. Bydd Cyfrol 2 yn dilyn y stori o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.