Hunangofiant cyn-arweinydd Plaid Cymru a'r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog.
Yma cawn hanes y cyfreithiwr a aeth yn Aelod Seneddol ac yna'n Aelod Cynulliad Ynys Môn. Am y tro cyntaf, croniclir hynt llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru rhwng 2007 a 2011 o safbwynt y Blaid a pham yr ystyrir y cyfnod hwnnw yn un mor llwyddiannus. Datgelir yr heriau a wynebodd Plaid Cymru wrth symud o'r ymylon i brif ffrwd gwleidyddiaeth ein gwlad. Cawn straeon am ddigwyddiadau pwysig yn ein hanes diweddar gan un a chwaraeodd ran ganolog ynddynt - o ddyddiau sefydlu'r Cynulliad hyd at lwyddiant yr ail refferendwm ar bwerau deddfu yn 2011.
Ceir cip hefyd ar ei fywyd oddi allan i ffiniau gwleidyddol - ei fagwraeth yn Ninbych, Garnswllt a Chorwen, ei fywyd teuluol a'i fentergarwch wrth sefydlu M-SParc, Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru.