Ieuan Wyn Jones
Cymhwysodd Ieuan Wyn Jones fel cyfreithiwr yn 1973 a bu'n gweithio fel partner mewn cwmni cyfreithiol gwledig rhwng 1974-1987. Etholwyd ef fel Aelod Seneddol Ynys Môn (1987-2001) ac fel Aelod Cynulliad (1999-2013).
Bu'n arweinydd Plaid Cymru rhwng 2000 a 2012 ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru o 2007 hyd 2011. Ef oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr gweithredol cyntaf M-SParc sef Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru.