"Dere gyda fi am dro bach..."
Mae yna sawl stori sy'n gweu perthynas gyfareddol merch a'i mam yn dynn, dynn.
Storiau plentyndod, ffrwyth dychymyg, a hynny i ddiddanu ac i ddysgu sawl gwers.
Ond mae yna storiau sydd heb gael eu dweud, storiau sydd wedi aros ynghudd tan nawr.
Fe fydd yr hen VW yn mynd â Swyn a'i mam ar daith i lefydd mor amrywiol â chofeb Waldo ger Mynachlog-ddu, Ystrad Fflur, Llyn Celyn ac Aberdaron, llefydd arwyddocaol sydd yn rhan o'n hanes ni, ac yn rhan o'u hanes nhw.
Ond wrth grwydro, a fydd Swyn yn dod o hyd i'r dewrderi rannu'r stori anoddaf gyda'i mam a dod i gymod gyda'r gorffennol?
Nofel afaelgar am berthynas mam a merch, y tebygrwydd, y gwrthdaro a'r agosatrwydd, wedi ei darlunio gan yr artist Efa Lois.