Where Magic Hides
Yn y casgliad hwn o straeon byrion mae sawl cymeriad yn dod ar draws brenhinoedd a throliau, ceffylau gwyllt a defaid o bob lliw o'r enfys wrth iddyn nhw ddysgu sut mae darganfod hud yn y straeon o'u cwmpas. Efo un stori ar sail hanes Rhiannon o'r Mabinogi ac un arall wedi'i lleoli yn y Gelli Gandryll, mae Cat yn ychwanegu ei llais at draddodiad storïo hirsefydlog Cymru.