Y Milwr Coll
Pan mae ei frawd ieuengaf yn listio yn y Rhyfel Mawr, mae Owen Humphreys yn teimlo bod rhaid iddo yntau listio hefyd, gan adael ei deulu a'i gariad beichiog ar ôl. Rai misoedd wedyn daw'r newyddion bod Owen a'i frawd wedi'u lladd. Ond beth sy'n digwydd pan ddychwela Owen i'w gartref ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty, a pha gyfrinachau fydd yn cael eu datgelu...