Ystrydeb dreuliedig yw cyfeirio at y Preselau fel gwlad hud a lledrith, ond dan ddylanwad hudoliaeth honedig y bryniau mae nifer o fythau a chwedlau'r fro wedi magu statws ffeithiau diymwad. Oes tystiolaeth gadarn i brofi mai trigolion y cynfyd fu'n gyfrifol am lusgo'r cerrig gleision o'r Preselau i Wastadedd Caersallog? Ai llechi chwarel Rosebush a osodwyd ar do'r Senedd yn Llundain? Ai protestiadau preswylwyr y Preselau a achubodd y bryniau rhag rhaib y Fyddin Brydeinig? A yw Preseli Waldo a W. R. Evans yn gadarnle'r iaith Gymraeg? Ymgais yw'r gyfrol newydd hon i nithio'r gwir rhag y gau a chynnig portread o rin a rhamant copaon uchel mwyaf gorllewinol Cymru.