Dyfed Elis-Gruffydd
Gwyddonydd Daear yw Dyfed Elis-Gruffydd. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain, gan astudio Daeareg a Geomorffoleg. Testun traethawd ei ddoethuriaeth oedd hanes rhewlifol Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr. Bu'n ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ei dro bu'n Bennaeth Adran Cyhoeddiadau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn Olygydd a Chyfarwyddwr Cyhoeddi Gwasg Gomer, ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Am chwe blynedd bu'n aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Ei ddiléit yw crwydro Cymru, arwain teithiau cerdded, annerch cymdeithasau Cymraeg a rhodio tirweddau rhewlifol a folcanig gogledd-orllewin Ewrop, a daw hynny i'r amlwg wrth ddarllen 100 o Olygfeydd Hynod Cymru (Y Lolfa, 2014), a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn, The Rocks of Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 2019) ac Y Preselau - Gwlad Hud a Lledrith (Gomer, 2017). Mae enw Dyfed Elis-Gruffydd hefyd i'w weld ymhlith yr Ymgynghorwyr golygyddol, ynghyd â'r Cyfranwyr a'r Cyfieithwyr a gyfrannodd at baratoi Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) a Geiriadur Cymraeg Gomer (Gomer, 2016).
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 7 | 1 2 | |
Cyntaf < > Olaf |