Celwyddog. Twyllodrus. Ffôl. Dyna rai o'r ansoddeiriau a deflid at Hugh Hughes Cadfan, Ysgrifennydd y Gymdeithas Wladychfaol. Ei drosedd oedd cyhoeddi "Llawlyfr y Wladychfa Gymreig" yn 1862 a 1863 gyda'r bwriad o berswadio Cymry a ddymunai ymfudo i wneud hynny gyda'i gilydd i Batagonia. Cyhuddwyd Cadfan o hepgor adroddiadau anffafriol parthed hinsawdd y wlad, a'i thir "diffaith".
Dros 150 mlynedd wedi mordaith y Mimosa, dyma gyhoddi Llawlyfr y Wladfa, gyda nod gwahanol, sef rhoi gwybodaeth wrthrychol i ddarpar ymwelwyr. Dyma gyfrol anhepgor i'r sawl sy'n breuddwydio am gael teithio i'r Wladfa – llawlyfr cyfoethog, llawn gwybodaeth, straeon dwys a digrif, lluniau a mapiau am hanes a lleoliadau y Batagonia Gymreig – y cyntaf o'i fath ar y Wladfa.