Adolygiadau
Bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin. A dyma nawr gyfrol gynhwysfawr, ardderchog; cofnod o dystiolaeth llygad y ffynnon personau sydd naill ai yn cofio'r meddyginiaethau, neu a fu'n eu harfer eu hunain. Llongyfarchiadau diffuant i'r awdur, a chanmil diolch am gymwynas nodedig iawn.
- Dr Robin Gwyndaf
Croeso i astudiaeth sy'n cynrychioli carreg filltir yn ei maes. Fe'i seiliwyd ar amrywiol fynonellau gwybodaeth, a hyn gan bwyso'n helaeth ar y tystiolaethau llafar gwlad pwysig a gasglodd yr awdur ar draws Cymry gyfan ar ran yr Amgueddfa Werin. Ffrwyth ei gwaith ymchwil manwl yw cyhoeddiad a all hefyd fod yn llawlyfr ymarferol tra gwerthfawr.
- D. Roy Saer
Da yw gweld doethineb gwlad o archifau Sain Ffagan yn cael ei ddatgloi ar gyfer cynulleidfa ehangach. Mae'n ddadansoddiad trylwyr, ysgolheigaidd o bwnc sydd o ddiddordeb i bawb.
- Dr Beth Thomas, Amgueddfa Werin Cymru
Cyfrol ryfeddol...Llyfr i'w fwynhau ac un a ysgogodd gwestiynau o gwmpas bwrdd cegin ein teulu ni am y meddyginiaethau a'r effaith bosib ar y corff.
- Arwyn Tomos Jones, Cylchgrawn Barn
Cyfrol gynhwysafwr, rhyfeddol. Dyma drysor o gyfrol yn dangos trylywyredd rhyfeddol yr ymchwil, y nodiadau cyfeiradol a'r mynegio. Ond yn bennaf mae'n gyfrol eithriadol o ddifyr a darllenadwy, yn rhoi llais i'r llu o gyfranwyr gwerinol oedd mor barod i rannu eu profiadau a thrwy hynny i roi ar gof a chadw eu 'doethineb gwlad' sy'n rhan o'n treftadaeth oll.
- Twm Elias, Fferm a Thyddyn, Rhifyn 60
Mae bwlch mawr wedi ei gau hefo bricsen o lyfr awdurdodol ar faes o hanes diwylliannol pwysig. Hwn yw'r gwaith diffiniol.
- Iwan Edgar, Llanw Llyn (rhifyn 457)
Llyfr gwerthfawr. Mewn modd hygyrch a difyr, cyflwyna Anne Elizbaeth Williams yr ystod o blanhigion a chynhwysion eraill a ddefnyddid...a trefnir y llyfr yn hwylus yn ol y math o anhwylder...
- Ceridwen Lloyd-Morgan, O'r Pedwar Gwynt