Adolygiadau
Campwaith, a ffrwyth cariad oes gan y naturiaethwr amlddoniog hwn. Yn ogystal â bod yn gatalogiwr o fri, mae Goronwy Wynne yn un sy'n gweld ac yn ymddiddori'n angerddol yn yr hyn sydd tu ôl i wyneb rhamantus natur.
- Yr Athro Deri Tomos
Perl o lyfr ydi hwn. Mae'r gyfrol yn waith oes ac yn adlewyrchu diddordeb angerddol Goronwy Wynne mewn planhigion. Dwi'n rhyfeddu at ei wybodaeth, ei waith ymchwil manwl a'i drylwyredd.
- Bethan Wyn Jones, Barn (Ebrill 2018)
Ni allwn ond rhyfeddu at y gamp anhygoel a gyflawnodd [Goronwy Wynne]. Cyfuniad o'r gwyddonydd a'r hanesydd a'r llenor Goronwy Wynne ar ei orau. Dyma, yn sic, lyfr y flwyddyn...
- Rheinallt Llwyd, Cylchlythyr Cymdeithas Edward Llwyd
Dylai fod ym mhob cartref, llyfrgell, Ysgol a phrifysgol yng Nghymru. Llafur oes sy'n gampwaith nid yn unig o ran botaneg a bywyd gwyllt ein gwlad, ond hefyd yn gampwaith llenyddol.
- Aneurin Karadog, un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2018, Golwg
Mae'r beibl hwn o lyfr am fyd y planhigion a'r blodau yn haeddu pob ansoddair canmoladwy y gellir meddwl amdano – campwaith, cynhwysfawr, difyr, diddorol, darllenadwy, addysgiadol, cyfoes, swmpus, hollgynhwysol, trylwyr, lliwgar, gorchestol, hollol gampus! Ond er yr holl wybodaeth eang a phytiau o straeon o bedwar ban y byd a geir yma, mae gwreiddiau'r llyfr yn gadarn yng Nghymru a'r Gymraeg, a'r cyflwyniadau manwl i bob un o'r siroedd unigol a'u daearyddiaeth, eu botanegwyr a'u cynefinoedd unigryw yn amhrisiadwy.Mae'r cyfan wedi'i ysgrifennu mewn ffordd mor rhwydd ei ddarllen, mor ysgafn a difyr, yn agos-atoch a hawdd ei ddeall. Trefnwyd yr holl ddeunydd yn drefnus a thaclus, gallwch daro mewn ac allan neu ddefnyddio'r mynegai manwl i ganfod gwybodaeth benodol. Mae twr o luniau, diagramau a mapiau lliw llawn sy'n ychwanegu at hwylustod y darllen, a dyluniad hyfryd a glân y llyfr i'w ganmol.
- Gwenllïan Dafydd, Gwales
Llongyfarchiadau I Goronwy Wynne am ysgrifennu llyfr sy'n un o glasuron yr iaith. Dyma gyfraniad arhosol.
- Y Faner Newydd
Dyma gyfrol gynhwysfawr gan fotanegydd uchel ei barch sy'n rhoi planhigion Cymru mewn cyd-destun llenyddol a diwyllianol.
- Y Pedair Tudalen