Goronwy Wynne
Ar ôl graddio ym Mangor mewn Amaethyddiaeth a Botaneg bu'n dysgu am gyfnod yn ei hen ysgol yn Nhreffynnon, yna yn Brif Ddarlithydd mewn Bioleg yn Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru. Derbyniodd raddau doethor o Brifysgol Cymru a Phrifysgol Salford. Y mae'n Gymrawd o Brifysgol Bangor ac o Gymdeithas Lineaidd Llundain, a bu'n Gofnodydd i Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon am 40 mlynedd. Bu hefyd yn olygydd "Y Naturiaethwr" i Gymdeithas Edward Llwyd am ddeng mlynedd, ac yn 2014 derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.