Adolygiadau
Nofel wleidyddol ragorol, hynod ddarllenadwy wedi ei lleoli yn y dyfodol agos gyda chymeriadau credadwy, stori gyffrous a sylwedd iddi. Yn llwyddo i glymu'r personol a'r politicaidd yn effeithiol iawn. Un o'r nofelau gorau eleni. Wedi carlamu drwyddi mewn dau ddiwrnod, ac mae'n braf gweld tafodiaith Shir Gar mewn llenyddiaeth gyfoes!
Nofel hynod ddyfeisgar, heriol, a deallus yw Gwales. Nid oes ei thebyg yn y Gymraeg - llongyfarchiadau Catrin Dafydd!
- Fflur Dafydd
'Am gyfrol gyffrous! Cefais i ddim mo fy siomi. Mae'r nofel wedi cymryd elfennau o heddiw i greu dyfodol credadwy ac wedi edrych ar ddynoliaeth a sut bobl 'y ni. Mae Catrin [Dafydd] yn dda iawn am sgwenu am bobl.
- Elinor Wyn Reynolds, BBC Radio Cymru
Mae Dafydd wedi defnyddio'r iaith mewn ffordd anhygoel clyfar ac effeithiol. Cefnogir y naratif gan lawer o gymeriadau gwahanol; mae pob llais yn wahanol, ac mae eu defnydd o'r Gymraeg yn newid yn dibynnu ar yr amgylchiadau.Mae sgiliau Dafydd yn arddangos yr holl leisiau gwahanol a gwahaniaethu hyn yn rhyfeddol. Mae'n cyflwyno catalog o amrywiaeth a lleisiau y gellir eu hadnabod ar unwaith a oedd yn amlwg wedi'u crafted yn ofalus iawn.
- Bethan May, bethanmaybooks
Anaml bellach y mae rhywun yn cael awydd i ailddechrau darllen llyfr ar ôl ei orffen, ond un o'r cyfrolau prin hynny yw Gwales, nofel ragorol Catrin Dafydd. Er y themâu gwleidyddol cryf, rhinwedd fawr y nofel yw ei chymeriadau credadwy a byw... Nofel epistolaidd yw hi, ac adroddir y stori trwy gyfrwng clytwaith o lythyrau, e-byst, dyddiaduron, dogfennau swyddogol a negeseuon testun. Cryfder nid gwendid yw'r strwythur yma, gan fod y plot wedi'i saernïo'n dynn a chrefftus, a symudir rhwng y naill lais a'r llall yn rhwydd a llyfn... Adeiledir darlun cofiadwy o gynnwrf Cymru Fydd, ac wrth i'r stori garlamu'n gyffrous yn ei blaen mae darnau jig-so ymgyrch Gwales yn disgyn i'w lle wrth i fywydau rhai o'r cymeriadau ddadfeilio. Yn Gwales mae Catrin Dafydd wedi llwyddo'n arbennig i ddychmygu'r gobaith a'r canlyniadau o ddilyn breuddwyd o'r fath.
- Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn
Nofel bwysig o amserol o ran cynnwys a heriol yn y defnydd celfydd o dafodieithoedd, gwead y llinynnau yn y stori a'r neidio mewn amser trwy'r nofel.
- Tony Schiavone, Cylchgrawn Golwg
Stori ddychmygus, afaelgar a chyffrous sy'n archwilio mantra mudiadau radical bod 'y personol yn wleidyddol'. Dyma nofel graff, grefftus a swmpus, sy'n ymdrin â themâu sylweddol mewn modd deallus a darllenadwy.
- Sioned Williams, Gwales
"In hindsight, the 2010s may be looked back on as the decade when the Welsh national movement awoke from its post-devolution slumber and Welsh independence entered the political mainstream. If so then this novel, set in the midst of an independence campaign may prove to have been a timely contribution to the debate. While it is set in the near future its depiction of a society where 'the welfare of people is second to the selfish forces of the select few … where people pretend to represent people but actually represent other things' is clearly aimed squarely at our present society. Neither does the author paint a utopian picture of the fight for independence, portraying in a realistic manner the dangers of populism from the perspective of a number of different characters from different parts of Wales, ethnicities and social classes."
- Ifan Morgan Jones, Nation.cymru
Petawn i'n gorfod disgrifio Gwales mewn un gair, uchelgeisiol fyddai hwnnw. A taswn i'n cael ychwanegu dau arall, mi fyddwn i'n ychwanegu mentrus a chwareus. Mae'r byd y mae Catrin Dafydd wedi ei gonsurio yn un sy'n tanio'r dychymyg yn syth. Mi wirionais yn syth ar hyder Catrin Dafydd wrth greu dau brif gymeriad o gefndiroedd 'ethnig' a'r Gymraeg yn iaith naturiol iddyn nhw.
- Elan Grug Muse, O'r Pedwar Gwynt
Nofel ddifyr dros ben ac amserol hefyd mewn byd gynyddol gymhleth ac ansicr ... Dyma nofel ddwys, alluog, glamp o nofel ym mhob ystyr.
- Owain Schiavone, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru
Rwy'n rhyfeddu at ddawn Catrin Dafydd o ran cymeriadu.
- Bethan Jones Parry, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru
Ffli gollwng nofel o'n llaw! Roeddwn wrth fy modd 'da'r wahanol arddulliau - dyddiadur, ebyst, cysylltu ar y we dywyll, llythyrau, teipysgrifau... Beth oedd yn braf yw bod yr awdur wedi meddwl yn fanwl ar shwt i symud y stori yn ol a mlaen mewn amser yn rhwydd, yn ddi-drafferth, yn gwbl ddealladwy... Mae Catrin Dafydd yn awdur sydd yn 'nabod pobl. Yn un sy'n gwrando ar sgyrsiau a sy'n gallu creu cymeriadau rydym ni wir yn poeni amdanyn nhw.
- Sian Teifi, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru