Y Tiwniwr Piano
Ail nofel Gymraeg yr awdures ifanc Catrin Dafydd, yn cynnig golwg diflewyn-ar-dafod ar fywyd Cymro Cymraeg yng Nghaerdydd heddiw. Mae gan Efan, y tiwniwr piano, allwedd i weld cyfrinachau bywydau pobl y ddinas, ond yn sgil hynny mae'n dod o hyd i gyfrinachau am bethau sy'n llawer nes adref, sef ei fywyd ei hun.