Ydych chi'n chwilio am nofel y bydd yn anodd i chi ei gosod o'r neilltu cyn cyrraedd y dudalen olaf un?
Fyddech chi'n hoffi darllen nofel gyffrous yn llawn cymeriadau lliwgar?
Yn y nofel hon awn gyda Cledwyn a Sian drwy'r darlun ac ar hyd twnnel i wlad Crug. Yno, cawn gwrdd a Gili Dw caredig - cymeriad rhychiog a moel, byr ond hynod o gryf. Mae'n eu hachub nhw rhag y creaduriaid peryglus a chyflym, yr Abarimon. Cawn deithio o Aberdyfi i wlad y Marach, y Gwachell a'r Cnorc, sy'n llawn anturiaethau hudol.
Darllenwch dudalen 20 i gael blas!
(Un o Gyfres yr Onnen - wyth nofel wedi eu hanelu at ddarllenwyr da 9 i 13 oed)