Adolygiadau
Fe wnes i wirioneddol fwynhau darllen Llechi. Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n euog am fod â rhagfarn yn erbyn nofelau i bobl ifanc, oherwydd fy anwybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael erbyn hyn, mae'n siŵr o fod. Doeddwn i ddim yn meddwl y bysan nhw'n apelio ata i fel rhywun sydd o leiaf ddegawd yn hŷn na'r grŵp oedran targed, ond mae'n rhaid i mi ddisgyn ar fy mai. Mae'r nofel yma'n sicr yn un y gellir ei mwynhau'n fawr gan bobl ifanc, ond sy'n rhoi'r un mwynhad i gynulleidfa hŷn hefyd yn fy marn i.
- Llio Mai Hughes, Blog Sôn am Lyfra
Y nofel gignoeth Llechi yw'r enghraifft ddiweddaraf o ddawn ddigamsyniol Manon Steffan Ros fel awdur. Llyncais abwyd y stori'n syth, ac mae'r cymeriadau'n llwyr argyhoeddi.
- Gwenan Mared, Cylchgrawn Barn
Cyfrol ardderchog... o'r foment gyntaf on i wedi dechrau'i darllen, ces i fy nhynnu mewn yn syth... Mae'n nofel ar gyfer pawb mewn gwirionedd – er fod ddim diweddglo hapus i'r gyfrol, mae 'na ddiweddglo difyr iawn iawn...
- Elinor Wyn Reynolds, Dewi Llwyd ar Fore Sul, Radio Cymru
Dwi'n meddwl ei fod yn tynnu chi i fewn i'r stori'n dda iawn ac yn delio efo llawer o bynciau perthnasol. Dwi'n meddwl bod y dirgelwch yn ddiddorol iawn.
- Carys, Llyfrgell Llandrillo
Gafaelodd y stori ynof i ddal ati i droi'r tudalennau; ac i ddyfalu beth ddigwyddodd.
- Bronwen Clatworthy, Lysh.cymru
Tasen i'n feirniad llenyddol swn i'n dweud bod Llechi gan Manon Steffan Ros yn glamp o nofel sy'n gwneud i chi ddilyn yr adroddwr annibynadwy i'r eithaf. Ond dydw i ddim, felly: nefi wen mae'n dda.
- Dr Kathryn Jones, Trydar
Da iawn Manon Steffan Ros. Thriller meets O Ddawns i Ddawns. Hawdd i'w ddarllen ond wedi ei sgwennu yn dda.
- Mererid Boswell, Trydar
Chwip o nofel yn llawn troeon annisgwyl, a stori wirioneddol drawiadol a chofiadwy. Ffantastig!
- Gareth Evans Jones, Trydar
Dyma nofel ddirgelwch sy'n anodd ei rhoi i'r naill ochr... Mae arddull y gyfrol yn sicrhau bod y darllen yn rhwydd, ac yn gweddu i'r math o stori lle mae'r darllenydd i ganol y stori lle mae'r darllenydd yn ysu am ddarllen ymlaen yn gyflym er mwyn darganfod y gwir... Os ydych chi'n ysu am nofel i'ch cipio i fyd trosedd a dirgelwch, bydd hon yn siŵr o blesio.
- Awen Schiavone, Western Mail Magazine
Llechi is a masterclass of exposition written by an author at the peak of her powers.
- Alun Davies, Nation.cymru