Bleddyn Owen Huws
Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Dr Bleddyn Owen Huws. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae astudiaeth ar y canu gofyn a diolch rhwng 1350 a 1630, detholiad golygedig o gywyddau gofyn a diolch o'r un cyfnod, a golygiad o lythyrau gan Garneddog a Gwallter Llyfni rhwng 1926 a 1932. Y Mae'n gyd-olygydd y cylchgrawn "Dwned", sef cylchgrawn hanes a llên Cymru'r Oesoedd Canol.