Siôn Tomos Owen
Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, arlunydd (artist), canwr a chyflwynydd o Gwm Rhondda. Cyhoeddodd Cawl yn 2016 ac enillodd ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru yn 2018 i ddatblygu nofel graffeg Gymraeg. Cyflwynodd ddwy gyfres o Pobol y Rhondda a rhaglenni Cynefin, a bu'n ymddangos yn rheolaidd ar raglen Jonathan ar S4C.
Mae'n byw yn Nhreorci gyda'i wraig a'u dwy ferch, ac mae'n mwynhau bwyta, chwarae a chwerthin!