Terry Davies
Ganed Terry Davies yn Llwynhendy. Ymunodd gyda'r Llynges Frenhinol cyn mynd ymlaen i fwynhau gyrfa ar y cae rygbi. Chwaraeodd i Gymru ac i Lewod Prydain ac Iwerddon. Derbyniodd MBE yn 2013 am ei wasanaethau i gymunedau Bynea a Llanelli.