Zonia Bowen
Roedd y diweddar Zonia Bowen yn awdures a rhydd-feddylwraig. Ganed hi yn Norfolk a magwyd yn Swydd Efrog. Astudiodd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor a phriododd y Prifardd Geraint Bowen. Yn 1967 dechreuodd fudiad Merched y Wawr yn Y Bala, lle roedd yn byw ar y pryd. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad â chrefydd na gwleidyddiaeth. Hi oedd awdur "Llydaweg i'r Cymro", y gwerslyfr Llydaweg cyntaf yn yr iaith Gymraeg.