Gareth Thomas
Ganed Gareth Thomas i rieni o Gwm Rhondda. Cafodd ei addysg yn y Rhyl, Pontllyfni, Cwmbrân, Caerdydd a Llundain. Astudiodd ddrama yn y Barri a Llundain. Gweithiodd yn Lloegr fel actor, athro, awdur a chyfarwyddwr. Perodd ei rwystredigaeth dros golli ei gysylltiadau â Chymru iddo ddechrau dysgu'r Gymraeg yn 50 oed ar gwrs gohebol Prifysgol Morgannwg. Mae'n byw yn y Bontfaen.