Ffion Emlyn
Yn wreiddiol o Feddgelert, treuliodd Ffion gyfnodau yn byw yng Nghaerdydd a Chaernarfon a theithio ychydig o'r byd cyn dychwelyd i bentref y ci enwog. Fe wnaeth fwynhau gyrfa ym myd y theatr cyn ymuno â'r BBC i weithio fel cynhyrchydd radio gyda chyfnodau fel cynhyrchydd stori a golygydd sgript ar wahanol raglenni'r BBC.