Dylan Arnold
Wedi ei fagu yn Nantgwynant a Beddgelert, mae Dylan Arnold yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol. Bu'n gweithio yn y maes teledu fel gŵr camera llawrydd a chynorthwyydd camera am gyfnod. Mae gan Dylan angerdd a chariad at grwydro a thynnu lluniau tirwedd ei gynefin, darganfod llecynnau cudd a thyrchu am hanesion am gefn gwlad Cymru. Mae Dylan yn dad i Elis a Twm.