Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Herbert Williams

Herbert Williams

Ganed Herbert Williams yn Nhrefechan, Aberystwyth. Fe aeth i Ysgol Fechgyn Heol Alexandra ac yn hwyrach i Ysgol Ramadeg Ardwyn. Gorffenodd ei addysg ffurfiol yn 15 oed, pan bu'n dioddef o'r ddarfodadigaeth a threuliodd dwy flynedd yn Sanatoriwm De Cymru yn Nhalgarth, Powys. Tra'n gweithio fel newyddiadurwr – yn gyntaf ar papurau wythnosol ac yna papurau dyddiol – fe ddysgodd ei hun drwy darllen yn helaeth a drwy mynychu dosbarthiadau Prifysgol. Yn y 60au, fe welwyd yn un o'r dôn newydd o feirdd Cymraeg ag oedd yn ysgrifennu yn y Saesneg, gyda llais hollol wahanol i leisiau Dylan Thomas, Vernon Watkins, Idris Davies ac eraill a fu'n creu argraff yn y 1930au a 40au. Daeth yn un o gyfranwyr cynharaf Poetry Wales a cafodd ei waith ei arddangos yng nghylchgronnau rhyngwladol. Cadnabyddwyd ei lwyddiannau drwy ennill le wrth ochr beirdd megis D H Lawrence, Sidney Keyes a Edward Thomas yn y gyfres Corgi Modern Poets in Focus, a olygwyd gan Dannie Abse. Ers hynny mae ei gerddi wedi ymddangos mewn dros 20 blodeugerddi a fe gomisiynwyd i ysgrifennu nifer o ddarnau, gan gynnwys dau waith ar gyfer radio'r BBC, sef 'A Lethal Kind of Love' a 'Journeys Through Time'. Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl bywgraffiad a nifer o nofelau eraill. Tra'n gweithio fel cynhyrchydd i raglen Morning Story BBC Radio 4 mae wedi annog nifer o awduron newydd, sydd eisioes wedi dod yn enwau sefydliedig. Mae Herbert yn gymrawd o'r Academi Cymraeg a'n aelod o Gymdeithas Awduron. Mae e'n gyfrannwr i'r Encyclpaedia Academaidd Cymraeg a bu'n bwnc rhaglen arbennig o'r rhaglen Celfyddydau ar Radio Wales a gyflwynwyd gan Jon Gower. Unodd yr Academi Cymrage a Undeb Cymraeg o Ysgrifennwyr i gyflwyno sioe teyrnged iddo yng Nghanolfan Celfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd yn 1999. Enillodd Poetry Slam Caerdydd yn 1998 a bu'n un o'r beirniaid ar gyfer Gwobr John Tripp ar gyfer Barddoniaeth Lafar yn 2007.

http://www.herbert-williams.co.uk

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Love Child

- Herbert Williams
£8.95