Mared Llwyd
Daw Mared Llwyd yn wreiddiol o Langwyrfon ger Aberystwyth, ond mae hi bellach yn byw yn Nhre Taliesin. Bu yn gweithio fel athrawes Saesneg yn Norwy ac fel cyfieithydd am gyfnod ar ol gadael y brifysgol. Erbyn hyn mae'n dysgu plant Blwyddyn 5 yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Mae hi'n mwynhau darllen, cadw'n heini, pobi cacennau, cerdded mynyddoedd, adnewyddu'r ty a mynd a Mostyn y ci am dro.