Kevin Johns
Mae Kevin Johns yn un o bersonoliaethau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae Kev wedi bod yn rhan o bantomime y Grand Theatre yn Abertawe ers nifer o flynyddoedd, ynghyd â nifer o gynhyrchiadau eraill. Fel cyflwynydd radio, mae wedi cyflwyno y Breakfast Show ar Swansea Sound am nifer o flynyddoedd ac yn un o comperes mwyaf poblogaidd Cymru. Mae Kevin hefyd yn boblogaidd iawn fel siaradwr gwadd i gynhadleddau a digwyddiadau. Ymysg ei talentau eraill, mae Kevin yn ymddangos yn aml gyda Cerddorfa Siambr Cenedlaethol Cymru; yn teithio ledled y wlad gyda'i sioe comedi gospel 'Comic Belief'; wedi cael nifer o sioeau Cabaret llwyddiannus gyda'r cantores Lyn Mckay. Mae Kev yn diddanu ffans Dinas Abertawe yn ystod hanner amser yn Stadiwm y Liberty ac wedi dod yn wyneb gyfarwydd yn gemau pêl-droed Cymru gan ddiddanu ffans yn Stadiwm y Mileniwm ac yn gemau terfynol Wembley. Mae Kev wedi chwarae rhan Geraint Flower ar y raglen BBC High Hopes, yn ogystal â Songs of Praise a sioe HTV Wales 'The Market'. Mae hefyd wedi lleisio rhaglen ddogfen ar gyfer BBC2 Cymru sef 'The Demolition Man'.