Arfon Gwilym
Fe'i magwyd yn sŵn diwylliant gwerin Meirionydd, yng nghyffiniau Dolgellau a Phenllyn, a threuliodd dalp o'i oes yn Sir Drefaldwyn, yn ohebydd ar Y Cymro cyn mynd i redeg busnes ym mhentref Penybontfawr. Mae ganddo droed mewn sawl gwersyll - y byd canu gwerin a cherdd dant, a hefyd bellach ym myd yr offerynwyr traddodiadol (Clera).