Dafydd Parri
Ganed yng Nghonwy a fe'i hyfforddwyd yng Ngholeg Normal, Bangor. Aeth i ddysgu mewn amryw ysgolion cyn gweithio fel athro Hanes a Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Roedd yn un o nifer o athrawon a weithiodd yn galed i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i ogledd-orllewin Cymru – ysgrifennodd a chreu deunydd ar gyfer gwerslyfrau daearyddiaeth yn Gymraeg. Fe sefydlodd siop lyfrau a recordiau Cymraeg yn Llanrwst yn 1955 gyda'i wraig. Dechreuodd ysgrifennu llyfrau i blant yn ystod y 1970au, pan greuodd y Cyfres y Llewod, gan hefyd ysgrifennu ambell nofel i oedolion. Bu farw Dafydd Parri yn 2001.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 30 | 1 2 3 4 5 | |
Cyntaf < > Olaf |