John Meirion Morris
John Meirion Morris yw un o gerflunwyr mwyaf dylanwadol Cymru. Bu'n ddarlithydd prifysgol yng Nghymru, Ghana a Lloegr. Tra yn Affrica fe'i cyffrowyd gan wedd ysbrydol y traddodiad celfyddydol yno. Astudiodd gelfyddyd Celtaidd Oes yr Haearn gan ddehongli'r gelfyddyd honno o safbwynt cymdeithasol ac ysbrydol. Daw yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ond mae bellach yn byw ym Mrynrefail yn Arfon.