Roy Lewis
Yr oedd Roy Lewis yn ugain oed pan ddaeth gyntaf i Gymru. Wedi ei eni a'i fagu yn Lloegr, ymsefydlodd yng Ngaherdydd ar ddiwedd yr ail ryfel byd ac ymgynefino â'r iaith drwy werthu llyfrau yn Siop y Castell. Cymerodd ran amlwg ym mywyd gwleidyddol y cyfnod ac ysgrifenodd yn y wasg Gymraeg ar faterion Cymraeg cyfoes.