Rhian Parry
Magwyd Rhian yng Nghaer a Phenmon. Yn dilyn gyrfa mewn addysg a'r gwasanaeth sifil hŷn, cychwynnodd ar ymchwil dan gyfarwyddyd yr Athro Gwyn Thomas ym Mangor. Defnyddiodd ei hymchwil i rannu ei gwybodaeth â'r cyhoedd. Lluniodd a hwylusodd brosiectau a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn gyntaf i Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yna i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Bu'n gyfrifol am yr ymchwil i ddwy gyfres o Caeau Cymru ar S4C, ac yn gyd-gyflwynydd.