Gwenno Hughes
Mae Gwenno o Gaeathro, a wedi ymgartrefu ar hyn o bryd yng Nghaerdydd. Bu'n gweithio fel golygydd yr opera sebon "Pobol y Cwm" ac mae ar hyn o bryd yn gweithio fel sgriptwraig ac awdures. Enillodd ei nofel gyntaf "Ta-Ta Tryweryn" wobr Tir na nOg ym 1999.