Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Hywel Wyn Owen

Hywel Wyn Owen

Brodor o Birkenhead a dreuliodd cyfnod cyntaf ei fywyd (1941-1962) ar Lannau Mersi, gan gynnwys dilyn ei radd gyntaf ym Mhrifysgol Lerpwl. Saesneg oedd ei bwnc, ond astudiodd y Gymraeg o dan Melville Richards a daniodd ei ddiddorden mewn enwau lleoedd. Wedi ei hyfforddi fel athro yn Aberystwyth, fe'i apwyntiwyd yn 1963 i ddysgu Saesneg a Lladin yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Yn 1969, cychwynnodd yrfa yn hyfforddi athrawon yn y Coleg Normal ym Mangor a chwblhau MA a PhD ar astudiaethau o enwau lleoedd Sir y Fflint. Erbyn integreiddio'r Normal gyda Phrifysgol Bangor yn 1996 roedd yn Brifathro Cynorthwyol. Yn 2000 sefydlodd y Ganolfan Ymchwil Enwau Lleoedd a chael cadair bersonol yn 2001. Ymddeolodd o'r Brifysgol yn Nhachwedd 2007. Mae'n Is-Lywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland. Mae'n briod gyda thri o blant ac yn aelod brwd o ddau g�r

http://www.bangor.ac.uk/PlaceNames/English/html/hywel_wyn_owen.html

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Dictionary of the Place-Names of Wales

- Hywel Wyn Owen, Richard Morgan
£40.00