Siân Eirian Rees Davies
Cafodd Siân Eirian Rees Davies ei geni ym Mangor yn 1981 a'i magu ar fferm ym Mhen Llŷn. Bu'n ddisgybl yn ysgolion cynradd Morfa Nefyn a Nefyn, Ysgol Uwchradd Botwnnog a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli. Aeth wedyn i Goleg Prifysgol Cymru Bangor gan ennill gradd yn y Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol a Gradd Meistr yn y Celfyddydau. Yn 2005 enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel am Batagonia, I Fyd Sy Well.
http://212.58.224.35/cymru/eisteddfod2005/mawrth/daniel.shtml