Aneirin Karadog
Enillodd Aneirin Karadog y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, 2016. Yn brifardd, perfformiwr, darlledwr ac ieithydd, Aneirin oedd Bardd Plant Cymru 2013-15. Magwyd ym Mhontypridd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae bellach yn byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth Fawr.