Huw Chiswell
Mae Huw Chiswell yn un o ganwyr-gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus a phoblogaidd y Gymraeg. Bu'n aelod o sawl grŵp pop gan gynnwys Y Crach a'r Trwynau Coch cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus yn perfformio a rhyddhau recordiau fel artist unigol. Mae ei ddilynwyr a'i apêl mor eang ag erioed.