Ceri Lloyd
Mae Ceri yn actores ac athrawes ioga sydd yn angerddol am ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy cynaliadwy. Yn dilyn llwyddiant cydredeg y blog Eat Sleep Organic mewn cynadleddau figan yn Los Angeles, Efrog Newydd a Llundain, mae hi erbyn hyn yn rhedeg y wefan SAIB sydd yn cynnig ryseitiau figan a chyngor ar sut i fyw yn ymwybodol. Yn ogystal â hyn, mae Ceri yn cynnal digwyddiadau ioga a chlybiau swper ledled Cymru. Caiff hefyd ei hadnabod am ei rôl ar y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd.