Gareth Alban Davies
Yn enedigol o Gwm Rhondda, derbyniodd yr awdur ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Porth a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Sbaeneg a Ffrangeg. Treuliodd ei yrfa wedyn yn Adran Sbaeneg Prifysgol Leeds, lle arbenigodd yn llenyddiaeth yr 17eg ganrif. Ei ddiddordeb mewn celfyddyd weledol a'r gyd-berthynas rhwng llên a chelf a'i harweiniodd gyntaf at Owen Jones. Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, ynghyd ag erthyglau ar hanes a beirniadaeth lenyddol; hefyd cyhoeddodd gyfrol yng nghyfres yr Academi ar farddoniaeth Sbaen o'r Oesoedd Canol hyd at heddiw. Bu farw yn 2009.