Mathau o waith
LLYFRAU
Gyda dros hanner canrif o brofiad o argraffu a rhwymo, gallwn gynhyrchu llyfrau o’r safon uchaf. Ewch i’ch siop lyfrau agosaf i weld prawf o hynny! Rydym yn arbenigo mewn niferoedd o hyd at 5,000 copi gan wneud y cyfan – y plygu, y casglu, y lamineiddio a’r rhwymo – yma yn Nhalybont.
Mae gennym wasg ‘berffeithio’ Komori Sprint ar gyfer gwaith du-a-gwyn, gwasg Komori Lithrone 5-lliw ar gyfer gwaith lliw a gwasg newydd Xerox Versant 180 ar gyfer argraffu digidol. Yn ogystal â rhwymo â glud, gallwn styffylu, gwinio a rhwymo yn sbeiral ac mewn cloriau caled.
Rydym yn argraffu ar gyfer cwmnïau cyhoeddi eraill, ac yn gynyddol ar gyfer awduron sy’n cyhoeddi eu hunain. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar hunan gyhoeddi.