Dyma hanes un dref yn Iwcrain, microcosm o Rwsia. Roedd Hughesovka (Stalino a Donetsk yn hwyrach) yn dref mwyngloddio a dur a sefydlwyd yn y 1870au gan fentrwr Cymraeg, John Hughes, a saith deg o weithwyr o Gymru. Dilyna'r llyfr hwn hanes y dref wrth iddi newid a symud oddiwrth ei dechreuad patriarchaidd, drwy chwyldroadau Rwsia, y cyfnodau Bolsiefigaidd a Stalinaidd, y feddiannaeth Natsiaidd a chwymp Comiwnyddiaeth a chodiad cenedlaetholdeb Wcrain y 1990au, i ol-annibyniaeth Wcrain.
Mae'r llyfr yn ail-ymweld y broses o greu rhaglen ddogfen deledu 1991 Colin Thomas, sef "Hughesovka and the New Russia" ac yn gyfuniad arbennig o hanes cymdeithasol a gwleidyddol Rwsia a Chymru; newyddiaduriaeth teithio, ac yn
deyrnged i'r hanesydd Cymraeg Gwyn Alf Williams, yn ogystal a bod yn gofiant personol o fywyd yn y byd teledu a hanes.
Defynyddia'r awdur y ddinas fel trosiad i archwilio'r enciliad o ddelfrydiaeth wleidyddol, a natur gobaith a dadrithiad, drwy brocio themau megis cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth, rhyngwladoliaeth a chenedlaetholdeb, a rhyddid ac ymelwad.
Dyma adolygiadau o raglenni dogfen yr awdur:
The Dragon has Two Tongues - "It's... uniquely provocative approach to history will have sent more than one documentary film maker...back to the drawing board" (The Times)
The Divided Kingdom - "The name of Colin Thomas...a guarantee of intelligence and scrupulous integrity" (The Financial Times)
Hughesovka and the New Russia and the UK network-transmitted Border Crossing on Raymon Williams - "Splendid" (The Guardian)
Mae DVD "Hughesovka and the New Russia" yn rhad ac am ddim gyda'r llyfr.