Mae llais Richard Rees wedi bod yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd radio a theledu yng Nghymru ers y saithdegau, o'i ddyddiau cynnar ar radio ysbyty Glangwil, trwy gyfnod eiconig y rhaglen Sosban ar Radio Cymru a'i waith fel cyhoeddwr continuity a chyflwynydd teledu, hyd at heddiw. Ond sut ddaeth y bachgen swil hwn ag atal dweud difrifol yn un o bersonoliaethau mwyaf adnabyddus a hoffus y byd darlledu yng Nghymru? Dyma'r cipolwg cyhoeddus cyntaf ar hanes dyn preifat iawn yn ei hanfod, ac mae'n hunanbortread gonest, doniol, emosiynol a difyr, yng ngeiriau Richard ei hun. Nid dim ond troelli disgiau a darlledu yw diléit Richard: mae ganddo amryw fyd o ddiddordebau ac mae wedi dilyn sawl trywydd yn ystod ei fywyd. Wrth wneud hynny. cafodd gyfle i deithio'r byd a chwrdd â phobl a chreaduriaid difyr ac anghyffredin yn y broses.