Darlithydd Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yw Dylan Jones a phan ddaw o hyd i gorff marw yn y coleg, caiff ei dynnu i ganol dirgelwch ymhell y tu hwnt i furiau diogel academia. Roedd y Groes Naidd - un o greiriau pwysicaf y Cymry - wedi diflannu rywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol. Darn o'r Wir Groes oedd hon, sef croes Iesu Grist, a ysbeiliwyd oddi ar gorff Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri yn 1282. Mae pobl wedi bod yn chwilio amdani ers canrifoedd. Pobl bwerus. Pobl sy'n fodlon lladd. Mae Dylan yn dadorchuddio hanes y Groes Naidd bob yn dipyn, gan deimlo'n fwyfwy hyderus y bydd yn llwyddo i ddod o hyd iddi. Ond gall gormod o wybodaeth fod yn beth peryglus. Ac wrth i'r daith gythryblus ei arwain i Lundain, ac yna i Sbaen, mae rhywun yn gwylio Dylan yn ofalus, gan arwain at ddiweddglo syfrdanol allai gyffwrdd â chalon y genedl.