'Mae'r tŷ ma'n trial siarad â ni. Moyn gweud rhwbeth wrthon ni. Rhwbeth pwysig, falle.' Chwilio am lechen lân y mae Owain a'i deulu wrth symud o dawelwch cymharol Cwm Gwendraeth i fwrlwm dinas Caerdydd. Ond wedi symud i rif 45, Gerddi Plasturton, mae'n amlwg fod gafael y gorffennol yn gryf. Wrth i ofnau ac euogrwydd y teulu borthi'r egni anniddig sy'n llechu ym muriau'r hen dŷ, tybed faint o ddihangfa sy'n aros y teulu mewn gwirionedd a thybed oes yna berygl i hanes trasig arall ei ailadrodd ei hun? Nofel seicolegol wedi ei hadrodd yn bennaf drwy lygaid ifanc.