Pan syrthia Ffrainc i ddwylo'r Almaenwyr adeg yr Ail Ryfel Byd mae Maï ar Manac'h a'i morwyn, Henriette, yn cael eu carcharu yng ngwersyll Porte de l'Angoisse yn Llydaw - gwersyll nad oedd neb yn dod ohono'n rhydd.
Daw un o ddynion Adolf Hitler, y Cadfridog Kurt von Heyden, i holi Maï am ei bywyd a dyna pryd y daw hanes lliwgar y fenyw anhygoel hon i'r amlwg. Gadawodd Maï ei chartref cyffredin yng nghefn gwlad Llydaw a theithio i Baris. Fe wnaeth enw iddi hi ei hun mewn parti un noson fythgofiadwy yn y Moulin Rouge, ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn gwrtisan i'r Tywysog Antoine.
Ond dyw taith Maï at fywyd o gyfoeth ac anrhydedd ddim yn fêl i gyd ac mae sawl tro yn stori'r fenyw gymhleth hon.
Nofel garlamus yn seiliedig ar hanes menyw yr oedd rhai'n ei hedmygu'n fawr ac eraill yn ei chasau.