Ganwyd Ned Thomas i rieni Cymraeg a'i fagu yn Lloegr, Cymru, yr Almaen a'r Swistir. Cafodd yrfa amrywiol fel awdur a newyddiadurwr, cyhoeddwr ac academydd, a hynny yn Sbaen, Mosco a Llundain, lle bu'n gweithio i bapurau'r Times. Ef a sylfaenodd Sefydliad Ymchwil Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bu'n gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru. Yn ogystal, ef oedd golygydd cyntaf Planet ac arweiniodd yr ymdrech i sefydlu papur dyddiol Cymraeg Y Byd.
Dewch ar daith drwy fydoedd eang ac anghyffredin Ned Thomas. Mae'n cael cyfweliad â'r Pab ac yntau ddim ond yn blentyn, yn osgoi merched dengar y KGB ym Mosco, yn cwrdd ag aelodau ETA yng Ngwlad y Basg, yn cael ei amau o fod yn ysbiwr yng Nghymru ac yn diffodd trosglwyddydd Pencarreg...
Dyma gofiant arbennig sy'n corddi'r dyfroedd ac yn codi cwestiynau gwleidyddol a diwylliannol pwysig.