Anamal y daw cyfle i ddyn adrodd stori un bywyd ar ei hyd, heb sôn am ddisgrifio dau fywyd cyfan ond, yn yr hunangofiant hwn, dyna'n union a wna David Gwilym Evans Davies. I'r rhai oedd yn ei nabod yn y bywyd cyntaf, dyma hunangofiant Davies y Fet; i bobl oedd yn cofio Cyngor Sir Dyfed, y Cynghorydd D. G. E. Davies sy'n adrodd ei hanes. Ond i'r cyfeillion a chydnabod hynny o ardal Cwm Cerdin a Llandysul, Pren-gwyn a Dyffryn Cletwr, y bobol sydd wedi ei nabod ers pedwar ugain a mwy o flynyddoedd, stori Defi Fet sydd yma. Os yw cael darllen am ddau fywyd mewn un yn fargen, yna bargen a hanner yw gallu darllen am fywyd cymuned gyfan rhwng yr un cloriau. Wrth i fywyd Defi a'i deulu newid dros y blynyddoedd, cawn, trwy gyfrwng straeon ffraeth a difyr am gefn gwlad Ceredigion yn yr ugeinfed ganrif, ddarlun o fro sy'n newid hefyd. Falle taw pobol eu milltir sgwâr yw Defi Fet a'r cymeriadau lliwgar sy'n rhannu llwyfan gyda fe yn y gyfrol hon, ond nid pobol i sefyll yn yr unfan ydyn nhw chwaith. Ac mae'r hyn sy'n wir am un dyn, ac am un gymuned, yn wir am Gymru hefyd. Gyda chymorth ei fab yng nghyfraith, y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth, llwyddodd D. G. E. Davies i ddarlunio llawer mwy na dau fywyd cyfan - fe roddodd i ni gip ar y wlad i gyd.