O. M. Edwards ac Anthropos wnaeth y 'pentre gwyn' yn un o anhepgorion delwedd 'Cymru lân, Cymru lonydd'. O'r 1890au hyd at yr 1960au fe fu'n symbol cysurlon o degwch gwlad a gwerin a oroesodd ymosodiad enwog Caradoc Evans arno yn storïau My People. Daliai'r bardd, J. M. Edwards, i gredu yn ei rym adeg yr Ail Ryfel Byd ac y mae ei liw a'i sawr ar Hen Dŷ Ffarm D. J. Williams ac Under Milk Wood Dylan Thomas. Pan gyhoeddodd Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad a phan foddwyd Cwm Tryweryn, darfu am ogoniant llenyddol y 'pentre gwyn' a daeth 'Cwmderi' i orseddu anghytgord lle bu cytgord. Ond fel y dengys cymaint o lên atgof ail hanner yr ugeinfed ganrif, y mae'r 'pentre gwyn', fel lle yn y meddwl, wedi gwreiddio'n ddwfn yn nyhead llawer iawn ohonom.